Math | gwrthrych daearyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51°N 0.4°E |
Ardal o Dde-ddwyrain Lloegr sy'n gorwedd rhwng y Twyni Gogleddol a Twyni Deheuol yw'r Weald. Mae'n croesi siroedd Hampshire, Surrey, Gorllewin Sussex, Dwyrain Sussex a Chaint. Mae ei ddaeareg yn wahanol i fryniau sialc y Twyni Gogleddol a Deheuol; fe'i rhannir yn dair ardal ddaearyddol: y Weald Uchel (Saesneg: High Weald) yn y canol, sy'n dywodfaen; y Weald Isel (Low Weald) o gwmpas hwnnw, sy'n glai; a'r Greensand Ridge, sy'n grib o lasdywod yn ymestyn tua'r gogledd a'r gorllewin o'r Weald Isel ac yn cynnwys y pwyntiau uchaf y Weald.
Roedd y Weald unwaith wedi'i gorchuddio â choedwig, ac mae ei henw, Hen Saesneg yn darddiad, yn dynodi "coedwig". Yn yr hen amser roedd yr ardal yn anhyblyg ac nid oedd ond ychydig o drigolion. Defnyddiwyd y Weald ers canrifoedd, o bosibl ers Oes yr Haearn, ar gyfer trawstrefa anifeiliaid ar hyd gyrlwybrau yn ystod misoedd yr haf.[1] Dros y canrifoedd, mae cychwyn diwydiannau – adeiladu llongau, mwyndoddi haearn, gwneud siarcol, gwydr a brics – wedi arwain at ddatgoedwigo yn y Weald Isel, a dim ond olion y coetir sydd ar ôl.
Trefi mewndirol mwyaf y Weald yw Horsham, Burgess Hill, East Grinstead, Haywards Heath, Crowborough, Tonbridge a Tunbridge Wells; ac ar hyd yr arfordir mae Bexhill-on-Sea, Hastings, Rye a Hythe.